Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 27 Medi 2022.
Diolch. Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig yn cynorthwyo ffermwyr ledled Cymru i fod yn fwy cydnerth a chynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy gan fynd i'r afael â'r heriau a ddaw yn sgil yr argyfyngau hinsawdd a natur. Rydym ni'n cynnal amrywiaeth o ddadansoddiadau i hysbysu dyluniad y cynllun, sy'n cynnwys rhanbarthol a sectoraidd.