Mwynglawdd Brig Glan Lash

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 27 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 1:49, 27 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Trefnydd. Y peth diddorol gyda Glan Lash yw bod adroddiad ecoleg cynllunio annibynnol a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Gaerfyrddin wedi argymell gwrthod y cais ar y sail nad yw'n cyflawni dyletswydd y cyngor i gynnal a gwella bioamrywiaeth. Maen nhw'n cyfeirio at ddeddfau a wnaed gan y Senedd hon. Felly, pa un sy'n iawn, o ystyried y ceisiadau cynllunio posib ynghylch ymestyn Aberpergwm, a haeriad Llywodraeth Cymru nad oes ganddi unrhyw sail i ymyrryd yn y cais? Oherwydd, siawns nad oes yr un ohonom ni eisiau mwy o lo. Diolch yn fawr iawn.