Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 27 Medi 2022.
Ddiwedd mis Awst, cafodd carthion eu gollwng i'r dŵr ym Mhont-yr-ŵr yn fy etholaeth i, gan arwain at y gyfarwyddeb dŵr ymdrochi yn canfod bod ansawdd y dŵr yn annerbyniol. Roedd y digwyddiad llygredd hwn yn un o nifer ar draws arfordir de Sir Benfro. Yn aml, caiff digwyddiadau fel hyn eu hachosi gan orlif carthffosiaeth cyfunol, neu CSOs. Gan fod ansawdd dŵr yn fater sydd wedi'i ddatganoli'n llwyr, yn gyfan gwbl o fewn rheolaeth y Llywodraeth Cymru hon, pa gamau uniongyrchol mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau y gall ymdrochwyr nofio mewn dyfroedd glân yr haf nesaf?