Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 27 Medi 2022.
Gweinidog, roeddwn i'n ddiolchgar iawn o glywed bod y Prif Weinidog wedi ail-gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r moratoriwm ar ffracio yma yng Nghymru. Mae'n dangos ymrwymiad ac ymroddiad Llywodraeth Lafur Cymru i adeiladu dyfodol cynaliadwy, gan ddiogelu iechyd ac eiddo pobl yng Nghymru. Yn anffodus, gallai cymunedau ar y ffin, fel y rhai rwyf i'n eu cynrychioli yn y gogledd, ddal i gael eu heffeithio gan ffracio. Yn benodol, mae halogi ansawdd y dŵr yn fygythiad difrifol. Pa sylwadau fydd yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth y DU ynglŷn â phryderon am ddiogelu dŵr rhag ffracio yma yng Nghymru?