Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 27 Medi 2022.
Trwy gydol ei ddatganiad, gwnaeth y Canghellor anwybyddu hyn i gyd ac yn hytrach fe wnaeth flaenoriaethu toriadau treth ar gyfer y cyfoethog, codi'r terfyn ar fonysau i fancwyr, ac amddiffyn elw'r cwmnïau ynni mawr. Bydd gan hynny ganlyniadau economaidd a chymdeithasol sylweddol a bydd hynny'n gostus iawn i unigolion a theuluoedd yng Nghymru.
Fe ddylai Llywodraeth y DU fod wedi achub ar y cyfle i gynnig mwy o gefnogaeth drwy fudd-daliadau lles a thai. Fe ddylai hyn fod wedi cael ei ariannu drwy dreth ffawddelw ar y sector ynni. Yn hytrach, mae'r Canghellor wedi dewis cynyddu benthyciadau cyhoeddus yn sylweddol, gan wneud i aelwydydd incwm is ysgwyddo'r baich am flynyddoedd i ddod. Methodd y datganiad â chynnig gweledigaeth gynhwysfawr ar gyfer buddsoddi i hybu twf economaidd, gwella ein diogeledd ynni ni ar gyfer y dyfodol a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Ni chawsom unrhyw ymgysylltiad o flaen llaw ar unrhyw un o'r newidiadau yn natganiad y Canghellor, gan gynnwys meysydd trethu sydd wedi eu datganoli i Gymru. Rydym ni'n gwrthwynebu diddymu'r gyfradd incwm ychwanegol o 45 y cant yn fawr iawn. Ar adeg pan fo'r rhai sydd ar ben isaf y raddfa gyflog sy'n dioddef fwyaf, polisi dirdynnol i'w gyflwyno yw hwn. Mae tystiolaeth yn awgrymu yn gryf y bydd y cynllun i gyflwyno parthau buddsoddi yn dadleoli gweithgarwch economaidd o rannau eraill o'r wlad ac nad ydyn nhw ag unrhyw effaith o ran twf economaidd yn gyffredinol. Fe fyddwn ni'n siarad â Llywodraeth y DU i ddysgu mwy am y parthau hyn, ond nid ydym ni am beryglu hawliau gweithwyr na glastwreiddio amddiffyniadau amgylcheddol.
Mae Llywodraeth y DU yn mynnu nad cyllideb mo hon yn golygu nad oedd y dadansoddiad dosbarthiadol traddodiadol yn cyd-fynd â hi, a fyddai wedi amlygu sut effaith y byddai'r mesurau yn ei chael ar gyllid aelwydydd. Rwy'n credu bod hynny'n dweud cyfrolau. Yn ôl y Resolution Foundation, bydd pobl sy'n byw yn ne-ddwyrain Lloegr neu Lundain yn gweld mwy na thair gwaith yr enillion a fydd i'w cael yng Nghymru, y gogledd-ddwyrain neu yn Swydd Efrog. Nododd Dadansoddiad Cyllid Cymru y bydd bron i 90 y cant o'r enillion yn mynd i gartrefi yn 50 y cant uchaf o'r dosbarthiad incwm, gyda 40 y cant yn mynd i gartrefi yn y 10% uchaf.
Mae'r ffaith bod y Canghellor wedi gwrthod rhoi caniatáu i'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ddarparu rhagolwg economaidd cyn ei ddatganiad cyllidol yn gwbl anghyfrifol. Mewn cyfnod pan fo'r DU ar ymyl dirwasgiad, fe ddylai Llywodraeth y DU fod wedi canolbwyntio ar gyfleoedd i fuddsoddi mewn pobl ac mewn rhaglenni sy'n rhoi sefydlogrwydd economaidd. Yn hytrach, mae'r helynt yn y marchnadoedd mewn ymateb i'r datganiad wedi dangos nad oes yna unrhyw hyder yn strategaeth economaidd Llywodraeth y DU. Mae'r symudiadau mewn sterling ac yng nghost benthyca'r llywodraeth yn dangos nad yw marchnadoedd yn credu y bydd Llywodraeth bresennol y DU naill ai'n cyflawni twf economaidd nac yn rhoi cyllid cyhoeddus mewn sefyllfa gynaliadwy.
Yn absenoldeb rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ar sail gwaith gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a rhagolygon annibynnol newydd a gyhoeddwyd gan Drysorlys ei Fawrhydi, mae gwerth cyllideb Llywodraeth Cymru dros y setliad tair blynedd presennol hyd at £4 biliwn yn llai mewn termau real nag a ddisgwyliwyd pan gyrhaeddwyd y setliad hwnnw. Methodd datganiad y Canghellor yn llwyr â chydnabod y pwysau hyn.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, rydym ni wedi gwneud y mwyaf o'n cyllid ni, yn blaenoriaethu gwasanaethau iechyd a chyhoeddus ac wedi mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Yma yng Nghymru, fe fyddwn ni'n gwario £1.6 biliwn yn y flwyddyn ariannol hon ar gynlluniau sydd â'r nod o fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ac ar raglenni sy'n rhoi arian ym mhocedi pobl. Heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, rydym ni'n wynebu dewisiadau anodd iawn, ar gyfer y flwyddyn bresennol ac wrth i ni ddechrau llunio ein cyllidebau ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Rwy'n parhau i fod yn bryderus ynglŷn â'r lefel sylfaenol o ansicrwydd o ran cynlluniau cyllideb Llywodraeth y DU ag effaith hynny ar ein gallu ni ein hunain i gynllunio.
Mae'r sicrwydd yr oeddwn yn gallu ei ddarparu i bartneriaid cyflenwi a'u gweithwyr drwy osod cyllideb aml-flwyddyn yn 2022 mwy neu lai wedi ei erydu gan y diffyg eglurder ynglŷn â chynlluniau Trysorlys ei Fawrhydi yn y dyfodol, ac rwy'n parhau i fod yn gynyddol bryderus am effaith hynny o bosibl. Mae'r Canghellor wedi dweud ei fod yn dymuno cyflwyno rhagor o doriadau treth, ar yr un pryd â lleihau dyled fel cyfran o gynnyrch domestig gros. Mae hyn yn awgrymu ein bod yn debygol o weld toriadau gwariant enfawr yn y dyfodol. Nid yn unig fod Llywodraeth y DU yn methu â mynd i'r afael â'r problemau yn lefelau cyllido nawr, mae hi hefyd yn benderfynol o fynd â'r wlad ar siwrnai sy'n golygu toriadau pellach mewn gwasanaethau cyhoeddus sydd dan bwysau eisoes.
Roeddwn i eisoes yn ystyried pa newidiadau y dylem ni eu gwneud i gyfraddau treth trafodiadau tir a bandiau yn sgil y cynnydd ym mhrisiau eiddo yng Nghymru cyn datganiad cyllidol brysiog Llywodraeth y DU. Fe fyddwn i wedi hoffi gwneud y newidiadau hyn yn ein cyllideb ni'n ddiweddarach eleni. Ond rwy'n pryderu y bydd maint y disgwyliad o ran newidiadau yn arwain at gryn ansicrwydd yn ein marchnad dai ni. Rwy'n cyhoeddi felly y byddaf i'n gwneud newidiadau i'r trothwy cychwyn lle mae treth trafodiadau tir yn daladwy gan brynwyr tai a'r gyfradd dreth y maen nhw'n ei thalu. Fe fydd ein band cyfradd sero ni'n cynyddu ar gyfer trafodiadau sy'n talu dim mwy na £180,000 i ddim mwy na £225,000. Fe fydd y band nesaf ar gyfer trafodiadau lle mae'r ystyriaeth a roddir yn fwy na £225,000 ond heb fod y fwy na £400,000. 6 y cant yw'r gyfradd a fydd yn daladwy. Fe fydd hynny'n golygu y bydd gostyngiad mewn treth sy'n daladwy ar gyfer trafodiadau sy'n costio hyd at £345,000 o uchafswm o £1,575. Fe fydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar 10 Hydref.
Bydd cynnydd bychan hefyd yn y dreth o hyd at uchafswm o £550 ar gyfer trafodiadau a fydd yn costio mwy na £345,000. Mae hyn yn cynrychioli tua 15 y cant o drafodiadau eiddo yng Nghymru. Rwyf i wedi gwneud y penderfyniad hwn gan wybod bod trethdalwyr sy'n prynu cartrefi sy'n costio mwy na £345,000 yn rhai a fydd yn fwyaf tebygol o elwa ar y toriadau treth a gyhoeddodd y Canghellor ddydd Gwener diwethaf. Bydd rheolau trosiannol yn cael eu cynnwys i amddiffyn trethdalwyr sydd wedi cyfnewid contractau cyn i'r rheoliadau sy'n achosi'r newidiadau ddod i rym. Ni fydd unrhyw newidiadau i gyfraddau uwch y trafodiadau eiddo preswyl—bydd y cyfraddau a'r trothwyon yn aros yr un fath—ac fe fydd pob elfen arall o dreth trafodiadau tir yn aros yn ddigyfnewid.
Fe wn i y bydd gan lawer o Aelodau ar draws y Siambr bryderon am y mesurau atchweliadol a gyflwynodd Llywodraeth y DU ddydd Gwener diwethaf. Rwyf i'n awyddus i'ch sicrhau chi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phleidiau blaengar yn y fan hon, a gyda'n partneriaid ledled Cymru, i amddiffyn pobl a gwasanaethau cyhoeddus Cymru orau gallwn ni yn sgil yr heriau sy'n ein hwynebu.