Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 27 Medi 2022.
Gan gydnabod y baich ychwanegol ar staff addysg, yn enwedig yn dilyn y pandemig, ac i gefnogi'r hawl i ddysgu proffesiynol, rwy'n ymgynghori ar ymestyn y ddarpariaeth o ddiwrnod hyfforddiant ychwanegol mewn swydd ar gyfer y tair blynedd academaidd nesaf, a byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb i ymateb i'r ymgynghoriad.
Er mwyn cryfhau dysgu a chefnogaeth broffesiynol rydym wedi gwneud gwelliannau i sefydlu statudol, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn y gwanwyn. O'r tymor hwn, rydym yn darparu cyllid ar gyfer mentoriaid hyfforddedig i gefnogi pob athro sydd newydd gymhwyso trwy gydol eu cyfnod sefydlu. Mae rhaglen genedlaethol o ddysgu proffesiynol hefyd wedi'i datblygu, ni waeth pa un a yw athrawon newydd gymhwyso yn gweithio ar gontract neu ar sail gyflenwi.
O ran gweithredu'r cwricwlwm, roeddem yn darparu hyblygrwydd i ysgolion uwchradd i ddechrau naill ai yn 2022 neu 2023. Mae fy swyddogion yn parhau i rannu cynlluniau cynnar gydag undebau athrawon, gan fynd i'r afael â'u pryderon pan fo modd, ac mewn rhai achosion, addasu cynlluniau mewn ymateb i ystyriaethau ehangach ynglŷn â llwyth gwaith. Bydd ymchwil ar brofiadau cynnar gwireddu'r cwricwlwm yn dechrau'r tymor hwn, gan ein galluogi i ddeall yr hyn sy'n gweithio'n dda a pha wersi y gallwn ni eu dysgu ar gyfer y dyfodol i'n helpu i gefnogi ymarferwyr orau.
Yn yr un modd, rwyf wedi parhau i wrando ar bryderon a godwyd am y pwysau sy'n wynebu'r gweithlu i fodloni'r llinell amser ar gyfer symud plant i'r system anghenion dysgu ychwanegol newydd. Y gwanwyn diwethaf, cyhoeddais flwyddyn ychwanegol i symud y grŵp cyntaf o blant. Gydag ymrwymiad cryf ledled Cymru i sicrhau canlyniadau gwell i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, rydym yn parhau i gefnogi'r sector gyda £21 miliwn bob blwyddyn dros y ddwy flynedd nesaf i hybu cefnogaeth capasiti a gweithredu. Mae'n galonogol dysgu bod teuluoedd yn sôn yn gadarnhaol am eu profiadau hyd yn hyn.
Roedd datganoli cyflogau, telerau ac amodau athrawon yn cyflwyno cyfle i Gymru greu llwybr newydd i gefnogi ein gweithlu, a dyna beth yr ydym ni wedi'i wneud. Rydym ni wedi mabwysiadu dull partneriaeth gymdeithasol, gan weithio gyda'r proffesiwn addysgu i helpu darparu lwfansau a chyflogau uwch i athrawon newydd a phrofiadol o'u cymharu, er enghraifft, â Lloegr. Byddwn ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid ar adolygiad cynhwysfawr o strwythur cyflog ac amodau athrawon, gan ddarparu cyfleoedd pellach i ddatblygu system genedlaethol fwy penodol, a fydd nid yn unig yn gwella a mireinio'r system, ond yn ei gwneud yn decach ac yn fwy tryloyw.
Am gyfnod rhy hir nid yw athrawon cyflenwi wedi teimlo eu bod nhw'n cael digon o gefnogaeth. Gan weithio gyda Phlaid Cymru, rydym yn cymryd camau i fynd i'r afael â hynny. Dros y misoedd nesaf, byddaf yn dechrau ar ddiwygiadau sylweddol a fydd yn edrych ar y system gyfan, ac yn sicrhau bod staff cyflenwi yn cael eu gwobrwyo'n deg am y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Mae cynorthwywyr addysgu hefyd yn rhan annatod o'n gweithlu addysg, a dyna pam yr wyf eisoes wedi nodi nifer o gamau y byddwn yn eu cymryd i'w cefnogi, gan gynnwys mynd i'r afael â'u problemau penodol yn y gweithlu a dysgu proffesiynol.
Fel y dywedais, mae cefnogaeth llesiant yn hanfodol, Dirprwy Lywydd. Yn y gwanwyn, cyhoeddais fwy o gyllid i gefnogi iechyd meddwl a llesiant y gweithlu addysg, gyda chyllid o £1.2 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, yn codi i £3 miliwn erbyn 2024-25. Rydym yn parhau i ariannu'r elusen Cymorth Addysg, sy'n darparu cefnogaeth bwrpasol, wedi'i deilwra ar gyfer iechyd meddwl a llesiant i'r gweithlu addysg. Mae cefnogaeth llesiant ehangach hefyd yn cael ei chwmpasu, gan weithio gyda rhanddeiliaid, cyflogwyr ac undebau.
Dirprwy Lywydd, rydym ni, y Llywodraeth, yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi'r gweithlu addysg. Rydym wedi gwneud cynnydd cadarn dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rwy'n benderfynol o gadw'r momentwm hwn fel ein bod yn parhau i gefnogi ein gweithlu i'w helpu i godi safonau a dyheadau yn ein hystafelloedd dosbarth.