Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 27 Medi 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf wedi dweud yn gwbl glir nad oes modd cefnogi lles disgyblion a darparu addysg o ansawdd uchel os nad yw’r gweithlu yn teimlo eu bod nhw’n cael cefnogaeth. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i les y gweithlu fod yn ystyriaeth flaenllaw ym mhob peth rŷn ni'n ei wneud. Rhaid i leihau llwyth gwaith fod yn flaenoriaeth. Mae'r grŵp rheoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth, sy'n cynnwys rhanddeiliaid allweddol o'r gymuned addysg, wedi nodi ac ystyried materion sylweddol sy'n effeithio ar lwyth gwaith. Bydd y grŵp yn cwblhau ei argymhellion cyn bo hir, ond rwy’n disgwyl cynigion a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol, fel cael gwared â’r term 'ffug arolwg', egluro’r disgwyliadau ynghylch cynllunio gwersi a sicrhau ansawdd, yn arbennig mewn ysgolion cynradd, a symleiddio’r holl gyfathrebu a chanllawiau yn y dyfodol. Byddaf hefyd yn sefydlu proses newydd o fewn yr adran addysg, lle bydd yn rhaid i bob polisi a diwygiad ystyried yr effaith ar lwyth gwaith y gweithlu addysg.
Mae ansawdd system addysg yn dibynnu ar ansawdd ei hathrawon. Rwy'n hynod o falch o’n gweithlu ymroddedig, ac rwy'n gwybod eu bod nhw’n croesawu’r camau rydyn ni’n eu cymryd tuag at system o ddysgu proffesiynol drwy gydol gyrfa. Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddaf yn cyhoeddi'r hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol. Bydd yn creu pecyn o ddysgu proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg cyfan, fel y gall unrhyw un, ble bynnag maen nhw wedi'u lleoli yng Nghymru, elwa ohono. Bydd hwn yn hawl byw, yn cael ei fireinio wrth iddo ddatblygu. Bydd yn ei gwneud yn haws i ymarferwyr gael gafael ar raglenni dysgu proffesiynol ac yn gosod ein disgwyliadau clir ynglŷn â'r hyn y dylai pob gweithiwr proffesiynol yng Nghymru fod â hawl iddo. Os nad yw'r hawl hwnnw yn ei le ar hyn o bryd, byddwn ni’n gweithio'n gyflym gyda phartneriaid i wella’r hyn sy’n cael ei gynnig.