Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 27 Medi 2022.
Diolch a diolch am eich sylwadau. Mae mynediad i gefn gwlad newydd ddod yn ôl i fy mhortffolio. Roedd e gennyf i o'r blaen, ac mae'n faes yr wyf yn edrych ymlaen at gael ambell i drafodaeth arno, i weld sut eto allwn ni—. Wrth fynd yn ôl i'r hyn yr oedd James Evans yn ei ddweud, bydd gan y Bil hwn y pwerau i'n helpu ni gyda hynny, felly mae'r rheiny'n sgyrsiau nad ydw i wedi'u cael hyd yma, ond fe fyddaf yn eu cael wrth i ni fynd â'r Bil ymlaen.