Y Gronfa Ffyniant Bro

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 28 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Conservative 1:40, 28 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Mae agenda ffyniant bro Llywodraeth y DU wedi darparu buddion sylweddol i ganolbarth Cymru, gyda chyfanswm o £22 miliwn yn cael ei fuddsoddi ym Mhowys yng nghyllideb yr hydref diwethaf ar gyfer elfennau o ofal cymdeithasol, twristiaeth a thai, y mae gwir angen y rhan fwyaf ohonynt yn fy nghymuned. A yw’r Gweinidog yn cytuno â mi fod cyllid o'r fath gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn hwb enfawr i gymunedau gwledig, arian na fyddai byth wedi’i ddarparu gan yr UE na Llywodraeth Cymru o dan hen systemau ariannu biwrocrataidd, gan fod Llywodraeth Geidwadol y DU yn awyddus i godi'r gwastad, a chithau ond yn awyddus i ostwng y gwastad?