Y Dreth Gyngor

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 28 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:30, 28 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Drwy ein trefniadau partneriaeth sefydledig, rwyf wedi cynnwys llywodraeth leol ar bob cam wrth ddatblygu cynlluniau i greu treth gyngor decach. Cyfarfûm â phob un o’r 22 arweinydd ym mis Mehefin, cyn lansio ein hymgynghoriad cam 1, a byddaf yn cynnull trafodaethau rheolaidd wrth inni symud ymlaen.