Y Gronfa Ffyniant Bro

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 28 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:37, 28 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth y DU wedi diystyru Llywodraeth Cymru a’r Senedd mewn perthynas â'r gronfa hon, sy’n methu mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol parhaus ledled y DU. Dro ar ôl tro, rwyf wedi sôn wrth gyfres o Gangellorion a Gweinidogion y Trysorlys am y tarfu a’r golled sylweddol o gyllid cyffredinol sy’n effeithio ar gymunedau, busnesau ac elusennau yng Nghymru.