1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 28 Medi 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.
Diolch, Lywydd. Weinidog, gwn i bethau fynd braidd yn danbaid yn y Siambr ddoe, felly hoffwn fynd yn ôl i ganolbwyntio ar sut y gallwn helpu economi Cymru a busnesau Cymru i symud ymlaen. Yn eich datganiad ddoe, fe wnaethoch awgrymu nad oeddech yn cefnogi’r syniad o barthau buddsoddi, er fy mod yn derbyn y byddwch yn cael mwy o sgyrsiau gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynglŷn â'r rhain. Credaf fod gan y parthau hyn botensial i hybu twf busnes a swyddi crefftus iawn yn yr ardaloedd sydd eu hangen fwyaf. Yn hytrach na chael gwared ar weithgarwch economaidd, os cânt eu cynllunio yn y ffordd gywir, gallent fod yn gyfle inni ledaenu buddsoddiad a dyhead ledled y wlad. Mae ganddynt botensial hefyd i ategu rhai o’r bargeinion twf eraill, bargeinion dinesig, a phorthladdoedd rhydd posibl hefyd. Nawr, gwn fod ein profiad gydag ardaloedd menter wedi bod yn gymysg ledled Cymru, ond mae lle felly i gynlluniau mwy uchelgeisiol roi hwb i ddatblygu. Fel y dywedodd Ben Francis, cadeirydd polisi Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru,
'Ni all Cymru fforddio cael ei gadael ar ôl yn y genhadaeth i hybu cystadleurwydd rhanbarthol.'
Weinidog, a wnewch chi roi sicrwydd i ni eich bod yn bwriadu mabwysiadu agwedd agored tuag at y posibilrwydd o sefydlu parthau buddsoddi yng Nghymru, ac os ydych yn erbyn parthau buddsoddi, beth yw strategaeth Cymru? Sut y mae Gweinidogion yn bwriadu defnyddio eu hysgogiadau i sicrhau'r lefelau o dwf economaidd sydd eu hangen i oresgyn yr heriau presennol ac i sicrhau dyfodol mwy disglair i’n cymunedau?
Wel, rydym yn amheus iawn ynghylch y manteision y gallai parthau buddsoddi eu darparu, gan ein bod yn anghytuno â’ch dadansoddiad yn yr ystyr ein bod yn credu bod parthau buddsoddi’n tueddu i dynnu buddsoddiad oddi wrth rai ardaloedd, gan gael gwared ar weithgarwch economaidd o’r ardaloedd lle mae ei angen fwyaf. A dyna oedd un o'n pryderon ynghylch y porthladdoedd rhydd hefyd.
Rydym yn agored, wrth gwrs, i gael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn i glywed beth yn union yw eu cynnig. Credaf ei bod yn drueni na chawsant drafodaethau gyda ni cyn y cyhoeddiad, gan gofio, os ydynt am roi'r polisi hwn ar waith yng Nghymru, y bydd angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda hwy yn yr ystyr fod ardrethi annomestig wedi'u datganoli i Gymru, mae’r dreth trafodiadau tir wedi’i datganoli i Gymru, mae cynllunio wedi’i ddatganoli i Gymru. Felly, bydd angen yr holl arfau hynny arnynt er mwyn creu'r parthau buddsoddi hynny. Wrth gwrs y byddwn yn cael y sgyrsiau, ond credaf mai ein man cychwyn yw ein bod yn amheus ynghylch y manteision y gallent eu darparu.
Diolch, Weinidog. Credaf mai’r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi’i brofi, drwy ei thrafodaethau a’i gweithredu ar borthladdoedd rhydd gyda Llywodraeth Cymru, yw eu bod yn barod i siarad a gweithio gyda chi. Felly, rwy'n siŵr y gall hynny ddigwydd gyda'r parthau eraill hefyd.
Lywydd, rydym wedi clywed llawer am yr argyfwng ynni dros y misoedd diwethaf, ac rwy'n croesawu cynllun rhyddhad ar filiau ynni Llywodraeth y DU yn fawr. Mae hyn yn rhywbeth sy’n amlwg yn cynnig sicrwydd i fusnesau ac yn darparu cymorth gwerthfawr ar adeg anodd. Ond mater nad oes llawer o sôn wedi bod amdano yw’r argyfwng costau gwneud busnes, fod gorbenion busnes wedi cynyddu, gan leihau elw a rhoi mwy o bwysau ar fusnesau. Mae problemau o’r fath yn cael effaith ar bob rhan o’r economi, gyda’r baromedr busnes diweddaraf gan Fanc Lloyds yn dangos bod cwmnïau o Gymru wedi nodi bod ganddynt lai o hyder yn eu rhagolygon busnes eu hunain o un mis i'r llall, i lawr 37 pwynt ar 4 y cant. Mae busnesau wedi awgrymu wedyn y bydd angen cymorth ariannol ychwanegol arnynt yn ogystal â chymorth ar gyfer costau ynni i'w helpu drwy'r cyfnod hwn.
Weinidog, pa drafodaethau a gynhaliwyd gennych gyda busnesau a chyrff busnes am yr help sydd ei angen arnynt, a sut y bydd hyn yn bwydo i mewn i'ch cyllideb yr hydref hwn? Er enghraifft, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i gyflwyno cynllun dewisol mewn partneriaeth â chynghorau, yn debyg i’r hyn a roddwyd ar waith yn ystod y pandemig? Ac yn olaf, pa sgyrsiau a gawsoch gyda’ch swyddogion cyfatebol ar lefel y DU am ffyrdd y gellir rhoi cymorth wedi’i addasu ar gyfer pobl hunangyflogedig, gan gydnabod y pryderon penodol sydd ganddynt ar hyn o bryd?
Wel, i orffen y darlun, am wn i, ar y cwestiwn diwethaf, gan ichi sôn am borthladdoedd rhydd, dylwn fod wedi ychwanegu hefyd y byddai unrhyw drafodaethau ac unrhyw gytundeb y gallem ddod iddo, wrth gwrs, yn dilyn ein hymagwedd at borthladdoedd rhydd, lle nad oeddem yn fodlon derbyn unrhyw wanychu ar ein safonau amgylcheddol na’n hymagwedd at waith teg. Felly, bydd y pethau hynny’n hollbwysig mewn unrhyw drafodaethau a gynhelir yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU.
Ond rhannaf eich pryderon am effaith yr argyfwng ynni, a’r helbul economaidd ehangach, bellach, ar fusnesau ledled Cymru. Bydd cyhoeddiad Llywodraeth y DU yn gwneud rhywfaint i gefnogi busnesau, ond ni chredaf fod rhoi gwarant am chwe mis yn ddigon o bell ffordd, ac mae llawer o ansicrwydd ynglŷn â'r hyn a ddaw ar ôl y cyfnod hwnnw o chwe mis.
Cyn datganiad bach y Canghellor, ysgrifennais ato i ofyn am gamau brys i fynd i’r afael â’r bylchau sylweddol yn y cymorth i fusnesau, ymhlith sectorau eraill, ac yn amlwg, nid oedd unrhyw beth ar y ffordd i fusnesau mewn gwirionedd, y tu hwnt i’r cyhoeddiad ar y cap ynni gan Lywodraeth y DU. Credaf eu bod wedi ailgyhoeddi rhywbeth ar rewi'r lluosydd, a oedd eisoes wedi'i ymgorffori yn eu cynlluniau a'n cynlluniau ninnau, felly roedd hynny'n amlwg yn siomedig.
Wrth gwrs, byddwn yn parhau i gael trafodaethau. Roedd cynrychiolydd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain mewn cyfarfod partneriaid cymdeithasol ar yr argyfwng costau byw y bore yma, gyda mi, y Prif Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac eraill, ac roedd hwnnw’n gyfarfod hynod bwysig a defnyddiol. Gwn fod fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, yn cyfarfod yn aml iawn â chynrychiolwyr busnes hefyd. Ac wrth gwrs, bydd cymorth i fusnesau ar frig yr agenda yn ein trafodaethau unwaith eto pan fyddwn yn cyfarfod fel grŵp o Weinidogion yn ein grŵp rhyngweinidogol nesaf.
Diolch, Weinidog. Rwy’n dal i fod ychydig yn bryderus gan nad ymddengys fod gan Lywodraeth Cymru strategaeth glir ar sut y maent yn mynd i gefnogi busnesau yn benodol i symud ymlaen ar adeg anodd iawn. Gwn eich bod eisoes yn adolygu dyfodol ardrethi annomestig yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weld eich awgrymiadau maes o law, ond gwyddom hefyd, ar hyn o bryd, fod ardrethi'n uwch yma yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r DU, tra bo lluosydd Cymru eisoes ar ei lefel uchaf erioed. Ond ychwanegwch y pryderon am yr effaith y bydd y lefel uchel bresennol o chwyddiant yn ei chael ar ardrethi busnes at y pryderon presennol, ac mae’n amlwg pam fod y sector yn galw am gymorth brys i leddfu’r pwysau arnynt. A bod yn deg, hoffwn groesawu’r cynllun rhyddhad ardrethi busnes y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyhoeddi eisoes, yn enwedig yn ystod COVID, ond yn amlwg, mae arnom angen dull newydd o weithredu trethi busnes sy’n cymell yn hytrach na datgymell twf a chreu swyddi.
Yn y tymor byr, Weinidog, a ydych yn cytuno â galwadau arnoch gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru i ddefnyddio’r gyllideb sydd gennych ar y ffordd i rewi ardrethi busnes, o leiaf, er mwyn cefnogi manwerthwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn? Ac yn fwy hirdymor, a wnewch chi ystyried edrych ar ffyrdd mwy arloesol o annog twf busnes, megis dull graddedig o gyflwyno ardrethi busnes ar gyfer busnesau newydd a chynlluniau rhyddhad ar gyfer busnesau sydd am ehangu i safleoedd ychwanegol a chyflogi gweithwyr a phrentisiaid newydd? Diolch.
Felly, ar fater ardrethi annomestig, rwy'n falch fod yr ymgynghoriad a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar wedi cael croeso cynnes, ac edrychaf ymlaen at ddarllen yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw. O ran yr hyn y gallem fod yn ei gynllunio yn awr ar gyfer ein cyllideb, y byddwn yn ei chyhoeddi ganol mis Rhagfyr, fe fyddwch wedi clywed y datganiad gan y Canghellor ddydd Llun wrth gwrs nad oes unrhyw fwriad yn awr i gyflwyno cyllideb tan y gwanwyn. Felly, rydym yn gweithio ar y sail y bydd ein cyllideb yn sefydlog, yn y bôn, o'r hyn y cytunwyd arno yn ein cynlluniau gwariant tair blynedd y llynedd. Felly, nid ydym yn ystyried sefyllfaoedd lle bydd gennym arian ychwanegol i'w ddyrannu, ac ar y sail honno y gofynnaf i'm cyd-Aelodau, ac eraill o'r tu allan i'r Senedd, pan fyddant yn gofyn am gyllid ychwanegol ar gyfer gwahanol feysydd, yn enwedig y rheini a fyddai'n costio cannoedd o filiynau o bunnoedd, fel yr hyn yr ydych newydd ei ddisgrifio, mae angen inni nodi o ble yn ein cynlluniau presennol y byddem yn symud yr arian hwnnw. Oherwydd hoffwn nodi'n glir iawn fod ein cynlluniau ar hyn o bryd yn seiliedig ar ein cyllideb yn aros yn sefydlog, ac nad oes cyllid ychwanegol ar gael i'w gyhoeddi yn ein cyllideb ddrafft. Felly, credaf fod hynny'n gyd-destun pwysig i bob un ohonom. Yr unig gam sylweddol a welwn ar hyn o bryd fyddai ad-dalu cyllid y cyfraniadau yswiriant gwladol, na fydd angen i gyflogwyr eu talu bellach wrth gwrs, felly cafodd hynny ei gynnwys yn yr adolygiad o wariant, ac rwy'n credu y bydd angen i hynny fynd yn ôl i San Steffan.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gwnes i godi gyda chi ddoe, Gweinidog, yr angen i'r Llywodraeth ddefnyddio, nawr, y pwerau sydd gennych chi i amddiffyn y radd sylfaenol o dreth incwm yng Nghymru, er mwyn amddiffyn y gwasanaethau allweddol, wrth gwrs, y bydd nifer o bobl fregus yn dibynnu arnyn nhw yn ystod y cyfnod anodd sydd o'n blaenau ni. Wnaethoch chi ddim ateb fy nghwestiwn i bryd hynny, ond fe ddywedoch chi, ac rŷch chi wedi dweud yn gyson, fod cynlluniau'r Ceidwadwyr yn San Steffan yn regressive ac yn annheg. 'It embeds unfairness' mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud, ac mae e'n iawn, wrth gwrs. Ond mae hynny yr un mor wir am y toriad yn y radd sylfaenol hefyd, onid yw e? Achos mi fydd miliynyddion ar eu hennill o hyn, ac, unrhyw un sy'n ennill mwy na £50,000, mi fyddan nhw'n cael o leiaf pum gwaith yn fwy o fudd o weld ceiniog oddi ar y radd sylfaenol na rhywun, dyweder, sydd ar £20,000 y flwyddyn. A bydd mwyafrif ein pensiynwyr ni, ac unrhyw un sydd ddim yn ennill digon i dalu treth incwm, sef y tlotaf mewn cymdeithas, fyddan nhw ddim yn gweld budd uniongyrchol o hyn. Ond, wrth gwrs, nhw fydd y cyntaf i weld ac i deimlo effaith y colli gwasanaethau a ddaw yn ei sgil e. Felly, os nad ŷch chi'n barod i ymrwymo i gadw'r radd sylfaenol o dreth incwm ar 20c yng Nghymru, a wnewch chi o leiaf gadarnhau eich bod chi'n cytuno nad yw defnyddio toriad yn y radd sylfaenol yn ffordd sydd wedi'i thargedu'n ddigonol i gynorthwyo'r rhai mwyaf anghenus a bregus mewn cymdeithas?
Mae Llyr Gruffydd yn llygad ei le nad atebais ei gwestiwn ddoe, a sylweddolais hynny'n syth ar ôl imi orffen siarad. Ond roeddwn yn falch o allu ateb yr un cwestiwn, a godwyd gan ei gyd-Aelod, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, yn yr un sesiwn. Ac ni allaf ond ailadrodd yr hyn a ddywedais ddoe, yn yr ystyr fod gan Lywodraeth Cymru broses sefydledig ar gyfer ymdrin â'r gwaith o osod cyfraddau treth incwm Cymru. Rydym yn cyhoeddi ein cynlluniau, rydym yn dod â hwy i'r Senedd, rydym yn eu dadlau ac rydym yn pleidleisio arnynt yma, ac mae hynny fel arfer yn digwydd ochr yn ochr â'n cyllideb derfynol. Felly, nid wyf mewn sefyllfa i ddweud rhagor heddiw. Yn amlwg, bydd ystyriaethau a thrafodaethau i’w cael cyn hynny, ond yn sicr, bydd hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei drafod ac yn pleidleisio arno fel Senedd maes o law. Ond ni chredaf fod y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ddydd Gwener yn golygu bod rhaid i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad cynnar, er fy mod yn deall y pwyntiau a wnaed.
Wel, does bosib eich bod chi wedi pwyso a mesur rhywfaint ar y mater yma. Roedd gradd sylfaenol, neu doriad yn y gradd sylfaenol, yn mynd i ddigwydd o 2024 o dan gynlluniau Rishi Sunak, wrth gwrs. Felly, onid oeddech chi eisoes wedi dechrau ystyried neu asesu a oedd yr amser wedi dod i ddefnyddio'ch pwerau chi o ran graddfeydd treth incwm Cymreig? Oes yna fodelu wedi, neu yn, neu ar fin digwydd i hysbysu'r drafodaeth honno? Oherwydd, ar un llaw, rŷch chi'n cwyno'n barhaol am y diffyg mewn cyllid i gynnal gwasanaethau—rŷch chi wedi gwneud hynny eto yn gynharach y prynhawn yma—ond, ar y llaw arall, mae'n ymddangos eich bod chi'n gyndyn nid i godi'r treth yn y sefyllfa yma, ond i gadw'r treth ar ei lefel bresennol, rhywbeth fyddai, wrth gwrs, yn cynhyrchu dros £200 miliwn i helpu amddiffyn gwasanaethau iechyd, gofal, addysg yng Nghymru rhag y toriadau rŷch chi'n cwyno amdanyn nhw. Onid oes yna wrth-ddweud mawr eich bod chi'n gyndyn ar un llaw i edrych o ddifrif ar lefel y dreth yng Nghymru o fewn y pwerau sydd gennych chi, tra, ar y llaw arall, yn cwyno does yna ddim digon o bres yn y coffrau?
Wel, rydym yn ystyried ein holl ysgogiadau treth ar bob pwynt ar draws y cyfraddau a’r bandiau y gallwn eu pennu yng nghyfraddau treth incwm, treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi Cymru, wrth edrych hefyd ar y trethi lleol sydd gennym yma yng Nghymru. Felly, mae’r holl bethau hyn yn cael eu hadolygu’n gyson. Wrth gwrs, rydym yn gwneud y gwaith modelu i ddeall beth fyddai effaith gwahanol ddewisiadau. Gwnaeth y Pwyllgor Cyllid waith pwysig iawn yn flaenorol a edrychai ar oblygiadau codi’r gyfradd ychwanegol ar y pryd, a chredaf fod hynny'n eithaf defnyddiol ar gyfer mynd i’r afael â’r hyn sy'n rhywbeth newydd iawn i ni, wrth gwrs. Dim ond ers 2019 y bu gennym gyfraddau treth incwm Cymreig yma yng Nghymru, ac rydym yn dechrau deall beth y gallai’r opsiynau fod ar gyfer y dyfodol. Wrth gwrs, rydym yn ystyried yr holl bethau hyn bob amser, ond yr hyn nad wyf am ei wneud yw gwneud unrhyw gyhoeddiadau y tu allan i'n proses gyllidebol arferol.