Y Dreth Gyngor

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 28 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 1:32, 28 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro fod angen diwygio’r dreth gyngor. Mae wedi dyddio, mae'n anflaengar, ac mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn cydnabod hyn. Y cynigion y cytunwyd arnynt ar y cyd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yw’r cam cyntaf i newid system y dreth gyngor i un sy’n decach ac yn fwy blaengar gan barhau i gefnogi’r gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol. Ond gyda’r argyfwng costau byw yn cydio a chan wybod bod ôl-ddyledion y dreth gyngor eisoes yn broblem sylweddol ac yn debygol o waethygu, pa sgyrsiau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda rhanddeiliaid perthnasol ynglŷn â'r posibilrwydd o goelcerth dyledion, gan faddau dyledion y rheini sydd ag ôl-ddyledion? Gwn y byddai hynny’n gwneud cryn dipyn i helpu cynifer o bobl yng Nghymru heddiw.