Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 28 Medi 2022.
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog. Gŵyr pob un ohonom pa mor bwysig yw gofal plant i deuluoedd, yn enwedig teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd, a pha mor bwysig yw hi i’n rhieni a’n gofalwyr ddychwelyd i’r gwaith. Felly, tybed a wnewch chi ystyried ymestyn y ddarpariaeth gofal plant fel bod pob plentyn naw mis oed a hŷn yn gallu cael gofal plant am ddim. Diolch yn fawr iawn.