Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 28 Medi 2022.
Weinidog cyllid, fe wnaethoch chi anghofio crybwyll y ffaith a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ddydd Mercher y bydd awdurdodau lleol yn gallu elwa o gymorth gwerth £50 biliwn o'r cap ar brisiau ynni. Pa ymdrechion a wnewch dros awdurdodau lleol fel y gallant fanteisio ar yr arian hwn? Ac a fyddech yn cytuno gyda mi mai'r ffordd orau y gall Llywodraeth y DU dalu'r arian hwn i awdurdodau lleol yw yn uniongyrchol i awdurdodau lleol wrth gwrs, yn hytrach na'i roi i Lywodraeth Cymru a allai frigdorri'r arian hwnnw yn y pen draw?