Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 28 Medi 2022.
Mae fy mlaenoriaethau wedi’u nodi yn ein rhaglen lywodraethu a’n cyllideb ar gyfer 2022-23; mae paratoadau ar gyfer cyllideb 2023-24 yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Er gwaethaf y cyd-destun cyllidol heriol, byddwn yn gwneud yn siŵr fod ein blaenoriaethau gwariant yn cael cymaint o effaith â phosibl er mwyn sicrhau Cymru gryfach, decach a gwyrddach.