Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 28 Medi 2022.
Diolch. Fel y gwyddoch, mae gan banel strategaeth datgarboneiddio Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dasg aruthrol yn helpu i sicrhau bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cyrraedd eu targed carbon sero net erbyn 2030. Rwy'n deall bod newid hinsawdd yn eitem sefydlog yng nghyngor partneriaeth Cymru a gadeirir gennych chi. Gyda hyn mewn golwg, ers cyhoeddi'r fframwaith gweithredu ym mis Hydref 2021, hoffwn wybod pa raglenni gwaith sydd wedi'u datblygu'n rhanbarthol ac yn genedlaethol, pa dargedau a osodwyd i sicrhau cynnydd, a pha heriau ychwanegol a nodwyd gennych mewn perthynas â chyrraedd y targed hwn, o ystyried y cynnydd eithriadol mewn prisiau ynni cyfanwerthol. Diolch.