Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 28 Medi 2022.
Diolch. Byddaf yn hapus iawn i weithio gyda'r sefydliad, os carent ysgrifennu ataf i ofyn am gyfarfod. Rwy'n ymwybodol iawn o'r brys sy'n angenrheidiol mewn perthynas â'r gylfinir, ac roedd yn un o fy nghyfrifoldebau yn nhymor diwethaf y Llywodraeth wrth gwrs. Felly, os oes gennych gyswllt yno, gofynnwch iddynt ysgrifennu ataf neu os ydynt yn clywed hyn, a byddaf yn hapus iawn i'w cyfarfod.