Iechyd a Lles Anifeiliaid

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 28 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:33, 28 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Mae gan iechyd a lles anifeiliaid gysylltiadau clir ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys iechyd y cyhoedd, newid hinsawdd, yr economi, a bioamrywiaeth. Rwy'n trafod y meysydd trawsbynciol hyn yn aml gyda chyd-Aelodau Cabinet. Mae datganiadau wedi eu cyhoeddi am ein cynllun lles anifeiliaid ar gyfer Cymru a'r strategaeth TB, ac rwyf wedi cynnal trafodaethau pellach ynglŷn â mesurau rheoli ffiniau. Mae symud anifeiliaid anwes o Wcráin hefyd wedi bod yn bwynt trafod pwysig eleni.