Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 28 Medi 2022.
Eisiau cychwyn efo'r diciâu oeddwn i. Mae'r ystadegau diweddaraf am niferoedd yr haint yng Nghymru i'w croesawu. Mae'r niferoedd absoliwt yn lleihau ac rydyn ni wedi gweld yr haint yn haneru yn ei niferoedd yma dros y 12 mlynedd ddiwethaf. Ond, y newyddion llai calonogol ydy bod yr haint wedi dechrau ymddangos mewn ardaloedd newydd o Gymru, megis yng ngogledd Conwy a sir Ddinbych, a phryder ei fod yn dod i fewn i Bennal yn ne Meirionnydd. Fe wyddoch gystal ag unrhyw un arall am y niwed enbyd y mae'r diciâu yn ei gael ar nid yn unig yr anifeiliaid ond hefyd ar iechyd meddwl pawb sydd ynghlwm â'r gyr o wartheg, boed yn ffarmwr neu'n ffariar.
Os am atal y diciâu, mae'n rhaid atal ei ledu. Rhaid cymryd camau i'w rwystro rhag cyrraedd tir newydd a'i gyfyngu a'i leihau yn y tiroedd lle mae'n bodoli. Yr allwedd i hynny ydy addysgu a chymorth. Felly, mae'n bryder clywed bod y niferoedd sydd yn defnyddio adnodd Cymorth TB Cymru yn isel iawn, tra, yn Lloegr, fod clod mawr yn cael ei roi i wasanaeth TBAS, y TB Advisory Service, efo nifer uchel o ddefnyddwyr. Gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol o TBAS, felly pa wersi y mae hi wedi eu dysgu o gynllun TBAS, pa arfer da y mae hi yn ei fabwysiadu ohono, a pha gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd er mwyn adnabod pam mae'r niferoedd sy'n defnyddio Cymorth TB Cymru mor isel, a sut ydyn ni am weld cynnydd yn y defnydd?