Y Sector Pysgota

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 28 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:37, 28 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydych chi'n hollol iawn, mae'n hobi boblogaidd iawn i lawer o bobl, ac un o'r pethau a wnawn i'w chefnogi yw ceisio gwella ansawdd ein hafonydd ar gyfer y dyfodol wrth gwrs. Fel y gwyddoch, mae dyletswydd ar Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal, i wella a datblygu pysgodfeydd mewndirol a mudol. Felly, yn amlwg, rydym yn cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru, a'r Gweinidog Newid Hinsawdd sy'n gyfrifol am CNC wrth gwrs. Nid wyf yn cofio cael unrhyw drafodaethau penodol gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth mewn perthynas â'r maes hwn, ond o safbwynt fy mhortffolio, rwy'n credu bod angen inni sicrhau ein bod yn gwrthdroi'r dirywiad a welsom gyda rhywogaethau eiconig cyn gynted â phosibl.