Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 28 Medi 2022.
Diolch. Wel, yn sicr, gyda ffliw adar, rydym wedi cael blwyddyn anodd iawn. Mae fel arfer yn dechrau oddeutu mis Hydref ac rydym yn gweld rhywfaint o welliant erbyn mis Mawrth, ond yn anffodus, credaf ein bod wedi cael tri achos newydd yn y DU yr wythnos ddiwethaf yn unig. Felly, nid ydym wedi cael unrhyw egwyl o gwbl. Felly, rydych yn llygad eich lle i godi mater ffliw adar. Fel y dywedais, ni fyddem yn gwneud unrhyw beth heb ymgynghori â’n rhanddeiliaid, ac yn amlwg, byddent hwy'n rhai o’r rhanddeiliaid, ond rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar y dystiolaeth helaeth sy'n dod gan y gweinyddiaethau datganoledig eraill a Llywodraeth y DU.