Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 28 Medi 2022.
Iawn. Diolch. Rydych yn llygad eich lle: mae gan awdurdodau lleol rym i wahardd yr arfer o roi anifeiliaid yn wobrau ar eu tir. Nid wyf yn hollol yn siŵr faint a ddywedoch chi allan o'r 22. Credaf mai pump yw'r ffigur; nid wyf yn siŵr os mai naw a ddywedoch chi, ond fy nealltwriaeth i yw mai pump yw'r ffigur ar hyn o bryd, ond efallai ei fod wedi cynyddu, ac efallai eich bod yn gywir. Fel y dywedaf, rwyf wedi gofyn i grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru ystyried y mater. Gofynnais—. Mae'n debyg fod oddeutu tair blynedd wedi bod bellach, ond fel y gallwch ddychmygu, gyda phandemig COVID a phopeth sydd wedi digwydd, mae hyn wedi llithro i lawr yr agenda. Ond gwn fod papur sy'n edrych ar yr hyn y gallem ei wneud wedi'i roi i'r Aelodau bellach, felly, cyn gynted ag y caf eu safbwyntiau, byddaf yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.