6. Dadl ar ddeiseb P-06-1276, 'Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016'

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 28 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:49, 28 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, nid yw profiadau'r pandemig ond wedi atgyfnerthu'r hyn yr ydym yn ei wybod eisoes am y GIG a'r gweithlu nyrsio—gweithlu a oedd yn dioddef o brinder staff, cyflogau isel, digalondid, un a weithredai mewn amgylchedd wedi ei amddifadu o fuddsoddiad ac adnoddau. Nid oes ryfedd mai un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu yw cynaliadwyedd y gweithlu nyrsio. Mae llawer mwy o nyrsys yn gadael y GIG nag o nyrsys sydd newydd gymhwyso neu nyrsys sydd wedi'u recriwtio'n rhyngwladol. Ac yn anffodus, nid oes digon o weithredu wedi bod gan Lywodraeth Cymru ers adroddiad diwethaf y Coleg Nyrsio Brenhinol yn 2019 i fynd i'r afael â phroblem cadw staff nyrsio.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw arwain, a chymryd yr awenau, mewn perthynas â chadw nyrsys drwy greu strategaeth genedlaethol ar gyfer cadw staff. Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi cyhoeddi papur ar gadw staff sy'n nodi'r hyn a wneir mewn rhannau eraill o'r DU a'r hyn y gellid ei wneud yng Nghymru. Yn lle hynny, mae'n ymddangos y byddai'n well gan Lywodraeth Cymru guddio ei phen yn y tywod yn hytrach na wynebu maint y broblem. Nid oes unrhyw ystadegau cenedlaethol wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar swyddi nyrsio gwag. Wel, rydym wedi ceisio helpu gyda hynny; mae'r ddeiseb sydd gennym o'n blaenau yn sôn am 1,700 o swyddi gwag. Yn ddiweddar, cefais ffigur o dros 400 o lefydd gwag mewn un bwrdd iechyd. Felly, o weld hynny, roeddwn yn gwybod bod 1,700 yn swnio'n rhy isel, felly fe wnaethom gynnal ein hymchwil newydd ein hunain ochr yn ochr â'u hymchwil hwy. Fe wnaeth y Coleg Nyrsio Brenhinol yr un peth, a daethom i'r un canlyniad: mae bron i 3,000 o swyddi nyrsio gwag yng Nghymru. Mae'n ffigur brawychus, ond mae ymchwil ehangach y Coleg Nyrsio Brenhinol yn dweud mwy wrthym: dangosodd ffigurau yn gynharach eleni fod dros hanner nyrsys Cymru wedi digalonni oherwydd argyfwng staffio. Roedd 78 y cant o nyrsys yn teimlo bod gofal cleifion yn cael ei beryglu. Nid yw'r problemau hyn yn mynd i ddiflannu; mae angen mynd i'r afael â hwy yn awr.

Yn y gorffennol, mae'r Gweinidog iechyd wedi dweud bod adran 25B yn seiliedig ar dystiolaeth; y ffaith ei bod wedi ei seilio ar dystiolaeth yw'r hyn sy'n rhoi hygrededd i'r Ddeddf, ond er bod y dystiolaeth yn dynodi'r angen yn glir i sicrhau diogelwch cleifion drwy staffio diogel, mae hi'n parhau i fod yn amharod i weithredu. Edrychwch ar ganfyddiadau adroddiad Tawel Fan ym mis Medi 2014; mae hwnnw'n sicr yn dangos bod y cyfuniad o ddiffyg cyllid, prinder staff digonol, prinder sgiliau yn y gweithlu a diffyg arweinyddiaeth gyda'i gilydd yn cael effaith erchyll ar ofal cleifion, ac nid eir i'r afael â'r problemau sy'n codi o hynny. Ym mis Mehefin 2021, ysgrifennodd 16 o sefydliadau at y Prif Weinidog i annog y Llywodraeth i sicrhau lefelau staff nyrsio diogel ac ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gynnwys lleoliadau cymunedol a wardiau iechyd meddwl ar gyfer cleifion mewnol. Ond rydym yn dal i aros. Pryd fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i weld gwerth ein gweithlu nyrsio yn y ffordd hon?

Deallaf fod y prif swyddog nyrsio wedi ysgrifennu at Addysg a Gwella Iechyd Cymru ynglŷn â rhaglen staff nyrsio Cymru, a'i bod wedi nodi nad yw am gyhoeddi'r egwyddorion ar gyfer iechyd meddwl nac ymwelwyr iechyd. Nawr, nid yw hynny'n argoeli'n dda. Byddai'n golygu bod y gwaith ar gyfer y ffrydiau gwaith hynny'n annhebygol o symud ymlaen. A gaf fi ofyn, a yw'r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi'r egwyddorion ar gyfer iechyd meddwl ac ymwelwyr iechyd, ac os nad yw am wneud hynny, pam ddim? Rydym yn gwybod bod lefelau staffio sy'n rhy isel yn peryglu llesiant—a hyd yn oed bywydau—cleifion. Rydym yn gwybod ei fod yn gwaethygu digalondid ymhlith y gweithlu, gan arwain at golli staff profiadol a gwerthfawr. Ni allwn aros mwyach. A gawn ni weld Llywodraeth Lafur sy'n barod i wneud yr hyn sy'n iawn i'r gweithlu nyrsio ac i gleifion? Ac unwaith eto, diolch i'r deisebwyr.