Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 28 Medi 2022.
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Russell a’r Ceidwadwyr am gyflwyno dadl bwysig arall ar wasanaethau canser. Hoffwn ddiolch i eraill hefyd am eu cyfraniadau pwerus a meddylgar iawn i'r ddadl hon.
Wrth inni ddod dros effaith y pandemig, mae'n rhaid inni barhau i ganolbwyntio ar adferiad mewn gwasanaethau canser a cheisio lleihau unrhyw effaith ar ganlyniadau. Rydym wedi nodi, mewn nifer o gynlluniau, y gwaith a wnawn i gefnogi gwasanaethau canser, ac rydym yn canolbwyntio'n agos ac yn barhaus ar hyn yn ein trafodaethau gyda byrddau iechyd. A dweud y gwir, nid ydym yn gwneud yn ddigon da eto, ac rwy'n ymwybodol iawn fod llawer gennym ar ôl i'w wneud ar hyn. Mae llawer o’r hyn sydd wedi’i drafod heddiw yn berthnasol i sawl math o ganser, ond credaf ei bod yn iawn, yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser Gynaecolegol, ein bod yn canolbwyntio ar ganserau’r ofari, y groth, ceg y groth a rhai o’r mathau mwy prin, megis canserau'r fwlfa a’r wain.
Gwn fod cyfraddau goroesi ar gyfer canser y groth wedi gostwng yn y ffigurau diweddar, er ein bod wedi gweld gwelliannau ar gyfer canser yr ofari a chanser ceg y groth. Mae'n bwysig iawn fod pobl sydd â phryderon ynghylch canser yn mynd i weld eu meddyg teulu'n gynnar, ac mae'n rhaid inni beidio â theimlo cywilydd wrth siarad am y cyflyrau hyn a cheisio cymorth. Rwyf hefyd yn annog pobl sy’n gymwys i wneud defnydd o wasanaethau sgrinio serfigol neu'r rhaglen frechu rhag HPV, gan mai atal yw’r dull gorau oll.
Rwyf wedi clywed yn glir yr hyn y mae rhai ohonoch wedi’i ddweud am yr angen i sicrhau bod y gwasanaethau sgrinio hynny ar gael i fenywod ar adegau cyfleus. Rwy’n deall y gall fod yn heriol i fenywod o oedran gweithio wneud apwyntiadau o amgylch eu hymrwymiadau gwaith, felly rydym yn mynd i edrych ac rydym yn mynd i ddysgu gan Loegr am y potensial i gyflwyno hunan-samplu. Rwy'n cytuno nad yw perfformiad GIG Cymru mewn perthynas â chanserau gynaecolegol yn enwedig gystal ag y dylai fod, ac yn sicr, nid yw cystal â'r hyn rwy'n disgwyl ei weld. Mae'r gwasanaeth yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â hyn, gan gynnal clinigau ychwanegol, symleiddio llwybrau a chwilio am ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau. Ym mis Gorffennaf yn unig, ymunodd 1,561 o bobl â’r llwybr canser penodol hwn, ac yn yr un mis—yr un mis—cafodd 1,256 o bobl ar y llwybr canser wybod nad oedd canser arnynt. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo ac mae pobl yn mynd drwy'r system, ond nid yw hynny'n ddigon. Dechreuodd 76 o bobl eu triniaeth canser ddiffiniol gyntaf ar gyfer y cyflyrau hyn ym mis Gorffennaf.
Nawr, rydym yn dal i fod mewn pandemig, ac er bod yr effaith uniongyrchol ar wasanaethau'n cilio, mae canlyniadau anuniongyrchol tonnau cynharach y pandemig gyda ni o hyd—mae pobl a oedd efallai wedi oedi cyn lleisio pryderon bellach yn ceisio cymorth, yn ychwanegol at y rheini a fyddai fel arfer yn lleisio pryderon ar yr adeg hon. A'r hyn sy'n digwydd yw bod hynny'n arwain at niferoedd sylweddol uwch o bobl angen archwiliad—oddeutu 11 y cant yn uwch ar gyfer canserau gynaecolegol ers mis Ionawr.
Nawr, mae timau ein GIG ar y camau diagnosis a thriniaeth yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r nifer o atgyfeiriadau yr ydym yn eu gweld yn awr ac wedi bod yn eu gweld ers misoedd lawer. Ac fel y gŵyr pob un ohonom, ni allwn greu radiolegwyr, gynaecolegwyr, llawfeddygon, oncolegwyr a nyrsys arbenigol hyfforddedig ychwanegol allan o unman. Mae gennym y gweithlu a oedd gennym ar ddechrau'r pandemig. Er ein bod yn hyfforddi mwy o arbenigwyr mewn meysydd fel oncoleg a radioleg, mae'n mynd i gymryd sawl blwyddyn i weld budd y capasiti staffio ychwanegol hwn. Yn y cyfamser, rydym yn hyfforddi pobl mewn rolau ymarfer uwch i leddfu rhywfaint o'r pwysau. Ac wrth gwrs, wrth i atgyfeiriadau canser fynd drwy wasanaethau diagnostig a chleifion allanol generig, rydym yn blaenoriaethu gofal canser dros gyflyrau eraill oherwydd y brys clinigol sydd ynghlwm wrth hyn.