Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 28 Medi 2022.
Mae’r datganiad ansawdd ar gyfer canser yn gwbl annigonol, fel y dywedoch chi, ac mae angen rhywbeth gwell cyn gynted â phosibl. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu ffocws hynod fanwl ar ganserau yn gyffredinol yng Nghymru a llunio strategaeth i fynd i’r afael â hwy. Bydd hyn oll yn llywio ac yn arwain nid yn unig meddygon a staff clinigol eraill, ond hefyd y rheolwyr y mae angen iddynt ddeall beth fydd y blaenoriaethau yn y dyfodol.