Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 28 Medi 2022.
Diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Yn y blynyddoedd diwethaf, gwnaed cryn dipyn o gynnydd ar atal canser ceg y groth drwy gyflwyno rhaglen y brechlyn feirws papiloma dynol. Cyflwynwyd y brechlyn hwnnw gyntaf mewn ysgolion yn y DU ar gyfer merched yn eu harddegau yn 2008 ac mae wedi bod ar gael i fechgyn ers 2019. Mae wedi cael effaith hynod gadarnhaol ar gyfraddau canser ceg y groth ers ei gyflwyno. Dangosodd astudiaeth ddiweddar, a oedd yn cynnwys degawdau o ymchwil, fod cyfraddau canser ceg y groth wedi gostwng 90 y cant ymhlith merched yn eu hugeiniau a oedd wedi cael y brechlyn hwnnw yn 12 neu 13 oed. Mae HPV yn enw ar grŵp cyffredin o feirysau, ac mae llawer ohonynt yn ddiniwed, ond gwyddys bod rhai feirysau HPV yn arwain at risg uchel am eu bod yn gysylltiedig â datblygiad rhai canserau fel canser ceg y groth. Mewn gwirionedd, mae HPV yn gysylltiedig â 99 y cant o ganserau ceg y groth.
Mae'n bwysig nodi nad yw hyn wedi dileu'r angen am brofion ceg y groth—mae hynny wedi'i grybwyll yma heddiw—a'u bod yn dal i fod mor bwysig ag erioed, gan nad oes unrhyw frechlyn yn effeithiol 100 y cant, ac mae'n dal i fod yn bosibl i'r feirws gael ei drosglwyddo er gwaethaf y brechiad hwnnw. Ond mae wedi bod yn ddatblygiad enfawr ym maes iechyd menywod, a chanfuwyd ei fod yn effeithiol wrth amddiffyn menywod rhag canserau gynaecolegol eraill—sef canser y fwlfa a'r wain. Mae’r nifer sy’n cael y brechlyn hwn yng Nghymru wedi bod yn uchel ar y cyfan ers ei gyflwyno—oddeutu 80 y cant. Bu gostyngiad, fel y gŵyr pob un ohonom, rhwng 2019 a 2021, wrth i frechiadau rheolaidd gael eu hoedi. Ymddengys bod cyfradd derbyn o 80 y cant yn gyfradd dda iawn, ac mae hynny'n wir, ond os cymharwch hynny â'r brechlyn MMR, mae'r gyfradd derbyn ar gyfer hwnnw'n 90 i 95 y cant. Felly, rwy'n awyddus i wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer yr unigolion 12 i 13 oed sy'n cael y brechlyn HPV.
Gwn fod Jenny wedi ceisio sôn am endometriosis, felly rwyf am grybwyll hynny—y cysylltiad ag endometriosis heb ei ddiagnosio mewn menywod, a pho hiraf y mae menywod yn byw gyda'r cyflwr heb gael diagnosis, y mwyaf yw'r perygl y bydd yn ymledu ac mae'r tebygolrwydd y daw'n ymlediad canseraidd yn cynyddu. Felly, galwaf arnoch, Weinidog—rwy’n siŵr fy mod yn gwthio wrth ddrws agored—i edrych ar hynny.
Y peth arall yw bod canser yr ofari yn cael ei adnabod—fel y soniodd Rhun—fel y llofrudd cudd. Mae'n rhaid inni wneud mwy i addysgu'r bobl sy'n gweithio yn y maes, ond hefyd y bobl sy'n dioddef symptomau, i wybod beth y maent yn ymdrin ag ef. Ni ddylai fod yn llofrudd cudd—dylem fod yn ei amlygu ac yn sicrhau bod menywod a merched, yn ogystal â'u partneriaid a’r bobl o’u cwmpas, yn gwybod am yr arwyddion a’r symptomau o oedran ifanc iawn, yn ogystal â'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â chanserau a'r camau y gallant eu cymryd i helpu i leihau'r risg honno, fel brechu, deiet a ffordd o fyw. Yn sicr, hoffwn weld ymdrech wirioneddol i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r materion hyn. Gofynnaf i chi, Weinidog: a yw hynny’n rhywbeth y gallech fod yn ei gynnwys yn eich cynllun iechyd menywod i Gymru?