Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 28 Medi 2022.
Mae cymaint i'w wneud, a dwi'n gwybod bod ein rheolwyr a'n clinigwyr ymroddedig yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddiwallu anghenion pobl. Dyw codi'r pryderon hyn o ran systemau ddim yn feirniadaeth o gwbl o'u hymdrechion na'u hymroddiad nhw, a gallaf i eich sicrhau fy mod i'n gwneud popeth o fewn fy ngallu i i roi ffocws haeddiannol i hyn.