Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 28 Medi 2022.
Ac yn y cynllun yma, byddaf i'n nodi yn fanylach sut rŷn ni'n cyflawni'r disgwyliad a nodwyd yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser a'n cynllun trawsnewid gofal sydd wedi'i gynllunio. Rŷn ni hefyd wedi cyflwyno cynllun gweithredu ar iechyd menywod i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion gofal iechyd penodol menywod yng Nghymru.