Part of QNR – Senedd Cymru ar 28 Medi 2022.
Bydd y Bil Amaethyddiaeth yn helpu ffermwyr Cymru i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy gan fynd i'r afael hefyd â'r heriau a ddaw yn sgil yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.
Bydd y ddeddfwriaeth hon yn pennu mai Rheoli Tir yn Gynaliadwy fydd y fframwaith ar gyfer cymorth amaethyddol yn y dyfodol a bydd yn fodd i sicrhau canlyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.