Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 4 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:50, 4 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, dyna i chi anallu'r wrthblaid. Gall arweinydd yr wrthblaid fynd ati wrth gwrs i bledio'i achos cyhyd ac mor uchel ag y mae'n ei ddymuno. Yn y cyfamser, mae'r byd wedi symud ymlaen. Mae ymchwiliad, ymchwiliad wedi ei gyfansoddi'n llawn, a sefydlwyd gan Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan pryd y bydd cleifion a theuluoedd yng Nghymru yn cymryd rhan lawn, pryd y bydd holl weithredoedd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru—[Torri ar draws.]