Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 4 Hydref 2022.
Wel, Llywydd, byddwn yn edrych yn ofalus ar y cynigion yn yr Alban, wrth gwrs. Rwyf wedi cael cyfle i edrych arnyn nhw'n frysiog y bore 'ma. Gadewch i ni fod yn glir ynglŷn â beth yw'r cynigion mewn gwirionedd. Maen nhw'n rhewi rhent ar gyfer tenantiaid sy'n rhentu'n gymdeithasol yn yr Alban. Mae hynny eisoes yn bodoli yma yng Nghymru. Mae'r rhenti hynny i gyd yn sefydlog ac ni fyddant yn codi cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, felly nid oes gwahaniaeth rhyngom yn hynny o beth.
Mae'r rhewi rhent yn yr Alban yn berthnasol i denantiaid presennol yn unig, felly o ran unrhyw fflat sy'n dod yn wag ac sy'n cael ei osod i denant newydd, does dim rhewi rhent o gwbl, ac nid oes rhewi costau y gall landlordiaid eu hawlio'n gyfreithlon. Felly, os gall landlord ddangos bod yn rhaid iddo gwrdd â chyfraddau morgais uwch, bydd yn gallu cynyddu rhenti ar gyfer tenantiaid presennol. Os gall ddangos bod ganddo gostau yswiriant ychwanegol, bydd yn gallu eu trosglwyddo i denantiaid presennol. Os yw taliadau gwasanaethau y mae landlordiaid yn gorfod eu talu yn codi, byddant yn gallu pasio'r rheiny ymlaen i denantiaid presennol hefyd. Felly, gadewch i ni fod yn glir beth yw'r rhewi rhent hwn mewn gwirionedd. Mae'n achos o rewi rhent nad yw'n cynnwys unrhyw un sy'n cymryd tenantiaeth, ac ar gyfer tenantiaethau presennol mae nifer o ffyrdd o godi'r rhenti hynny beth bynnag.
Ac yna gwaharddiad—gwaharddiad ar droi allan. Wel, nid ar gyfer tenantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent sylweddol; nid ar gyfer pobl sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol; nid pan fo landlordiaid yn gallu dangos eu bod yn dioddef caledi ariannol; ac nid yw'r gwaharddiad ar droi allan chwaith yn atal landlord rhag gwerthu ei eiddo.
Pan oeddwn yn yr Alban yr wythnos diwethaf, cefais wybod am ddau bryder mawr ynghylch y darn hwn o ddeddfwriaeth cyn iddo gael ei gyhoeddi. Yn gyntaf oll, y rhuthr i droi tenantiaid presennol allan, er mwyn i landlordiaid allu osgoi'r newidiadau yn y gyfraith yn y ffordd yna, ac yn ail, y risg y bydd gostyngiad yn nifer yr eiddo sydd ar gael yn y sector rhentu preifat, gyda landlordiaid yn penderfynu gwerthu yn hytrach na rhentu, a hynny wedyn yn gwaethygu newidiadau sydd ar fin digwydd yn y farchnad dai. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn mai canlyniad y pecyn Ceidwadol yw bod cyfraddau morgeisi yn debygol o godi i 6 y cant, a bod prisiau tai yn debygol o ostwng hyd at 15 y cant. Mae creu sefyllfa lle mae nifer fawr o eiddo yn cael eu rhoi ar y farchnad sy'n cwympo yn y ffordd honno yn annhebygol o fod er budd pobl sy'n chwilio am eiddo i'w rhentu.
Felly, byddaf yn edrych yn fwy gofalus nag yr wyf wedi gallu ei wneud hyd yma ar gynigion yr Alban, ond mae unrhyw syniad eu bod yn ateb i bob problem y dylem ni eu mabwysiadu a'u rhoi ar waith yma yng Nghymru, wel dydw i ddim yn credu y bydd hynny'n cael ei dderbyn o bell ffordd.