Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 4 Hydref 2022.
Diolch Llywydd. Mae'n braf gweld y Dirprwy Weinidog yn gweiddi o'i sedd. Rwy'n gobeithio ei fod yn siarad mor uchel ar ran ei gleifion sy'n sownd ar restrau aros hanesyddol yn ei etholaeth, oherwydd dydw i byth yn ei glywed yn dweud dim am hynny, dydw i ddim. Ond unrhyw bryd yr ydych chi eisiau dadl arno, Dirprwy Weinidog, fe gaf i'r ddadl honno gyda chi.
Prif Weinidog, fe deithioch chi i'r Alban ddydd Mawrth diwethaf i gwrdd â Nicola Sturgeon. Mae Nicola Sturgeon wedi cytuno i gael ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r rheoliadau a'r rheolau COVID a gafodd eu gwneud yn yr Alban. Pam y mae hi'n anghywir a chithau'n iawn, oherwydd rydych chi'n rhwystro un yma yng Nghymru?