Aelwydydd Gwledig

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 4 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:01, 4 Hydref 2022

Diolch yn fawr iawn. Fel ŷch chi’n gwybod, mae cartrefi ledled y canolbarth a’r gorllewin yn dibynnu yn fwy ar danwydd off-grid megis olew a biomas na rhannau eraill o Gymru. Yn sir Gâr, mae 39 y cant o gartrefi heb gyswllt â’r grid nwy, 55 y cant ym Mhowys, a 74 y cant yng Ngheredigion. Mae hyn yn cymharu â chyfartaledd o 19 y cant ar draws Cymru. Yn wahanol i nwy, does dim cap wedi ei roi ar gost y tanwydd hwn. Mae un etholwr wedi cysylltu â fi yn dweud bod pris ei olew e wedi codi. Fe dalodd e, am 1,000 o litrau o olew, rhyw £269 flwyddyn yn ôl; mae hwnna wedi codi i £939 eleni. Ac yn y mini-gyllideb cwbl drychinebus wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd y Torïaid rhyw £100 fel swm pitw sydd ddim yn mynd i wneud mwy na chrafu'r wyneb ar gyfer y math yma o aelwydydd. Brif Weinidog, er ein bod ni'n croesawu'r £200 ychwanegol mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi, dwi'n gobeithio eich bod chi'n sylweddoli nad yw hyn chwaith yn ddigonol ar gyfer ardaloedd gwledig. Felly ydych chi'n ymrwymo i edrych ar ba gymorth ychwanegol ŷch chi'n gallu ei roi i gefnogi'r aelwydydd hyn?