Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 4 Hydref 2022.
Llywydd, er bod y prif ddata yn datgelu bwlch rhwng y rhywiau, mae'r rhaid yn cuddio sefyllfa fwy cymhleth ar lefel pwnc. Ymrwymiad y Llywodraeth hon yw sicrhau bod gan bob person yng Nghymru ddyheadau uchel a chyfle teg a chyfartal i gyrraedd eu potensial llawnaf, drwy ddarparu cyfres o lwybrau gwahanol a hygyrch i ddysgu.