Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 4 Hydref 2022.
Diolch i Alun Davies am y cwestiynau hynny ac am ei gyfraniad e at yr hyn rŷn ni'n ei drafod heddiw. Fydden ni ddim yn cael y drafodaeth hon oni bai am y gwaith wnaeth e pan oedd e'n Weinidog y Gymraeg. O ran disgwyliadau ar gyfer canlyniadau'r cyfrifiad, rhaid inni aros, wrth gwrs, i weld beth fydd y canlyniadau. Mae ychydig yn gynnar inni ragdybio beth fyddan nhw un ffordd neu'r llall. Byddwn i'n disgwyl, gobeithio, gweld hyn cyn diwedd y flwyddyn. Bydd yn rhaid asesu gyda gofal a phwyll.
Mae'n bum mlynedd ers i'r strategaeth newydd fod yn ei lle, fel mae'r Aelod, wrth gwrs, yn gwybod, sef hanner y cyfnod ers y cyfrifiad diwethaf cyn hwn. Am hanner y cyfnod mae'r strategaeth wedi bod yn ei lle, rŷn ni wedi bod yn byw dan amgylchiadau COVID, felly dyna'r cyd-destun o ran impact polisi ar y ffigurau byddwn ni'n eu gweld yn yr wythnosau sydd i ddod. Ond, o ganlyniadau'r cyfrifiad rŷn ni eisoes wedi eu gweld wedi eu cyhoeddi, rŷn ni wedi gweld bod lleihad wedi bod ym mhoblogaeth y rhannau o Gymru sy'n cael eu hystyried yn gadarnleoedd y Gymraeg—Gwynedd a Cheredigion, er enghraifft—ac, yn amlwg, byddwn i'n disgwyl bod hynny'n cael impact ar y ffigurau byddwn ni'n eu gweld cyn diwedd y flwyddyn—gobeithio taw dyna pryd y cân nhw eu cyhoeddi.
Beth gallaf i ei ddweud yn gwbl glir yw rŷm ni wedi ymrwymo yn llwyr i'r strategaeth ac i sicrhau nid jest ein bod ni'n cynyddu’r nifer sy'n gallu medru'r Gymraeg, ond defnydd y Gymraeg hefyd.
O ran y cydbwysedd rhwng rheoleiddio a hyrwyddo, mae'n sicr yn wir wnawn ni ddim rheoleiddio'n ffordd at ffyniant y Gymraeg. Mae'n rhaid cael cydbwysedd rhwng y ddau. Mae gan safonau rôl i chwarae ond mae rhan bwysig iawn gan hyrwyddo'r Gymraeg, a'i gwneud yn hawdd i bobl gael mynediad at y Gymraeg a chael cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg.
Diolch iddo fe am gydnabod yr hyn roedd e'n sôn amdano o ran tôn. Dwi'n gwbl glir wnawn ni ddim llwyddo yn yr uchelgais sydd gennym ni os yw'r Gymraeg yn destun dadl a chynnen rhwng pobl. Mae pawb yn y Siambr hon yn ymrwymedig i'r syniad bod y Gymraeg yn berthyn i bawb, ac mae hynny wir yn bwysig. Dyna'r feddylfryd sy'n sicrhau, pa bynnag faint o Gymraeg sydd gennych chi, defnyddiwch hi cymaint ag y gallwch chi mor aml ag y gallwch chi. Ac mae hynny'n creu cyd-destun sydd yn annog pobl eraill i ddysgu ac, yn bwysig, yn annog pobl eraill i'w defnyddio.