Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru

QNR – Senedd Cymru ar 4 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau nad oes neb yn Nwyfor Meirionnydd yn wynebu digartrefedd y gaeaf hwn?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi diwedd ar ddigartrefedd ar draws Cymru. Byddwn ni'n buddsoddi dros £197 miliwn mewn gwasanaethau cymorth digartrefedd a thai yn y flwyddyn ariannol hon yn unig. Mae ariannu cartrefi'r dyfodol yn cynnwys £12.3 miliwn mewn grant tai cymdeithasol i Gyngor Gwynedd. 

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros orthopaedig?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Nid yw amseroedd aros orthopedig, nac amseroedd aros eraill, fel y byddwn i na'r cyhoedd eisiau iddyn nhw fod. Rydyn ni wedi buddsoddi £170 miliwn yn rheolaidd i helpu i fynd i’r afael â'r ôl-groniadau ac rwy'n falch o nodi bod amseroedd dros ddwy flynedd yn lleihau. 

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

Beth yw dadansoddiad y Prif Weinidog o'r effaith y bydd cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU ar dreth yn eu cael ar gyllideb Llywodraeth Cymru?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Ddim wedi ei gyfieithu)

The tax changes announced in the fiscal statement provide no additional resources to fund Welsh public services at a time when costs are rising sharply.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o adroddiad 2022 Niferoedd Nyrsio y Coleg Nyrsio Brenhinol mewn perthynas â Gogledd Cymru?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Ddim wedi ei gyfieithu)

The report highlights the pressures being faced by our workforce due to the COVID pandemic and a global shortage of nursing staff.  I remain committed to ensuring that we have the right number of nurses and healthcare staff to meet the care needs of the people of Wales.