Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 5 Hydref 2022.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Nawr, fel y gwyddoch, mae cyllid o'r rhaglen gyllido cydraddoldeb a chynhwysiant wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion a chymunedau yn sir Benfro a ledled Cymru, ac rwy'n siŵr y byddwch yn deall bod adnewyddu'r cyllid hwn yn hanfodol i lawer o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y trydydd sector. Nawr, fel y gwyddoch, mae sefydliadau gwirfoddol a grwpiau o dan bwysau digynsail, gyda rhai sefydliadau'n cael trafferth cadw staff. Felly, a wnewch chi roi diweddariad ar gyllido'r rhaglen gyllido cydraddoldeb a chynhwysiant? A pha sicrwydd y gallwch ei gynnig i sefydliadau'r sector gwirfoddol yng Nghymru y bydd yr arian hwn ar gael cyn gynted â phosibl?