Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 5 Hydref 2022.
Diolch am y cwestiwn. Mae'r mesurau a gyhoeddwyd yn natganiad y Canghellor yn annheg. Maent yn methu darparu cefnogaeth i'r bobl fwyaf agored i niwed, gan ddarparu budd sylweddol i'r bobl gyfoethocaf ar yr un pryd. Bydd hyn yn golygu y bydd mwy o gartrefi yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd talu costau ynni ac eitemau hanfodol eraill, gan arwain at lefelau uwch o dlodi.