Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 5 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:11, 5 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Mae Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn cael ei benodi gan Lywodraeth y DU ac felly nid yw'n atebol yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae'r comisiynydd yn eiriolwr pwysig dros gyn-filwyr yng Nghymru. Rwyf wedi ei gyfarfod nifer o weithiau ac rwy'n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth ag ef er budd ein cyn-filwyr.