Troseddu ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 5 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:14, 5 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng ngogledd Cymru. Er bod plismona'n fater a gedwir yn ôl ar hyn o bryd, rydym yn gweithio'n agos â chydweithwyr plismona ar faterion strategol ac yn ariannu 600 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i ddiogelu cymunedau ar draws Cymru.