Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 5 Hydref 2022.
Wel, ar nodyn mwy cadarnhaol na fy nghyd-Aelod, rwy'n eithaf bodlon mewn gwirionedd gyda'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd. Popeth a wnawn yn awr, mae'n gyllideb fach ar gyfer twf, mae'n gyllideb fach i gael pobl yn ôl mewn gwaith. Ac mae'n rhaid i mi ofyn, yn dilyn pandemig COVID a'r ffaith bod gennym ryfel dychrynllyd yn Wcráin, sut yn union y byddech chi'n ei wneud a sut y byddai Llafur yn ei wneud. Nid oes gennych unrhyw atebion, dim ond beirniadaeth. Ac rwy'n dweud wrthych, mae'r bobl wedi gweld drwy hynny. Mae araith y Prif Weinidog heddiw wedi cael derbyniad gwych, ac mae sylwadau cadarnhaol ym mhobman. Felly, beth bynnag, rydym ni hefyd wedi cymryd—a phan ddywedaf 'ni', mae Llywodraeth y DU wedi cymryd nifer o gamau a fydd o fudd i bobl Cymru: capio biliau ynni ar £2,500 pan allent fod wedi bod yn £6,000—hyn, yn ychwanegol at y gostyngiad o £400 i bob aelwyd—[Torri ar draws.]