Ymddiswyddiad Comisiynydd Dioddefwyr Lloegr a Chymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 5 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:22, 5 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Fel y gwyddoch yn iawn, mae llawer o'r gwasanaethau y mae dioddefwyr eu hangen wedi eu datganoli i Gymru a phan ofynnais i'r Prif Weinidog ddiwedd mis Mehefin a oedd yn fodlon gyda'r system bresennol, dywedodd fod y system

'wedi ein gwasanaethu'n dda hyd yma.'

Wel, yn llythyr ymddiswyddiad y Fonesig Vera Baird yr wythnos diwethaf, roedd hi'n cwyno am ddiffyg ymgysylltiad o'r brig yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Cwynodd am flaenoriaethau Llywodraeth San Steffan. Aeth ymlaen i ddweud:

'Nid wyf yn gor-ddweud pan ddywedaf fod y system cyfiawnder troseddol mewn anhrefn.'

A yw Llywodraeth Cymru yn dal i gredu bod dioddefwyr yma yng Nghymru yn cael eu gwasanaethu'n dda drwy gael comisiynydd dioddefwyr sy'n atebol i Whitehall nad yw'n gwrando?