Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 5 Hydref 2022.
Roeddwn yn meddwl mai larwm tân amserol ydoedd.
Felly, mae goblygiadau sylweddol iawn. Hoffwn ddweud hyn wrth yr Aelod: ni ddylech danbrisio'r wir effaith, y wir her, y gwir alw sydd ynghlwm wrth hyn. Rwy'n credu bod pryderon difrifol ar draws holl Lywodraethau a gwledydd y DU, yn y gwahanol adrannau, hyd yn oed yn Llywodraeth y DU, ynglŷn â sut ar y ddaear y gellir cyflawni hyn o fewn yr amserlen sy'n cael ei hawgrymu. Gochelwch rhag addewidion a wnaed ar frys cyn eu difaru am amser maith.
Yr hyn a wnaf i fydd sicrhau, yn gyntaf, fod yr addewidion sydd wedi'u gwneud mewn perthynas â chyfrifoldebau datganoledig yn cael eu cadw. Fe wnawn bopeth yn ein gallu i warchod y safonau yr ydym yn eu hystyried yn bwysig yng Nghymru, a bydd hwn yn fater y byddaf yn amlwg yn gwneud datganiadau pellach yn ei gylch maes o law. Wrth gwrs, bydd yn cysylltu'n fawr â phroses y cydsyniad deddfwriaethol a hefyd yn creu llawer iawn o waith i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.