Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 5 Hydref 2022.
Diolch yn fawr iawn i'r Cwnsler am yr ymateb yna. Yn ei hymgyrch ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, fe ddywedodd y Prif Weinidog presennol y byddai hi'n dwyn rheolau llym i fewn ar undebau llafur, gan ymestyn y cyfnod notice, er enghraifft, ar gyfer gweithredu diwydiannol i 28 diwrnod a chynyddu'r rhicyn sydd angen ei gyrraedd er mwyn cael gweithredu diwydiannol er mwyn iddo fo gael mandad—rhicyn, gyda llaw, sydd lawer yn uwch na'r mandad mae hi wedi'i gael o fewn ei phlaid ei hun. Mae'n amlwg nad oes ganddi unrhyw ddealltwriaeth o amgylchiadau ac amodau nifer o bobl yn y gweithlu heddiw—edrychwch ar Amazon, y Post Brenhinol, gweithlu'r trenau, bargyfreithwyr a rŵan y nyrsys yma yng Nghymru yn sôn am weithredu diwydiannol. Ydy'r Gweinidog yn cytuno ei bod hi'n amser datganoli cyfraith cyflogaeth i Gymru neu, yn well byth, i gael annibyniaeth?