Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 5 Hydref 2022.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol—£132,000. Nododd cais rhyddid gwybodaeth fod Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £200,000 mewn achosion llys yn erbyn Llywodraeth y DU, arian a allai gael ei ddefnyddio'n llawer gwell yn cefnogi pobl Cymru. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol dawelu meddyliau a sicrhau na fydd Gweinidogion Llafur yn gwastraffu rhagor o arian ar heriau cyfreithiol, hunanfoddog, wedi'u cymell yn wleidyddol yn erbyn Llywodraeth y DU, a chanolbwyntio mwy o'ch amser a'ch egni ar y problemau go iawn y mae Cymru'n eu hwynebu, gydag un rhan o bump o boblogaeth Cymru ar un o restrau aros y GIG?