Y Goruchaf Lys

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 5 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:59, 5 Hydref 2022

Diolch yn fawr iawn i'r Cwnsler am yr ymateb. Bydd y Cwnsler yn ymwybodol o'r achos yn y Goruchaf Lys ynghylch cynlluniau datblygu hanesyddol yn Aberdyfi yn Nwyfor Meirionnydd. Rŵan, dwi'n deall mai nifer fach o achosion o Gymru sydd yn cyrraedd y Goruchaf Lys, ac mae rhai o'r achosion yma yn ymwneud â materion sydd wedi'u datganoli, megis cynllunio. Ond, wrth gwrs, gan fod y Goruchaf Lys yn eistedd yn Llundain, mae yna gwestiwn weithiau ynglylch y ddealltwriaeth o faterion wedi'u datganoli. Fel ddaru'r Cwnsler Cyffredinol ddweud, rwyf innau'n croesawu'r penodiad diweddar. Pan oedd Lady Hale yn llywydd y Goruchaf Lys, mi fyddai hi'n sicrhau bod achosion yn ymwneud â'r gwledydd datganoledig yn cael gwrandawiad yn y gwledydd hynny, ond dydy'r arfer yma ddim wedi parhau, ac mae achos Aberdyfi yn cael gwrandawiad yn Llundain. Ydy'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno gyda fi y dylid sicrhau bod y Goruchaf Lys yn dod i'r gwledydd datganoledig? Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael i geisio sicrhau hynny?