Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 5 Hydref 2022.
Diolch am hwnna, Gweinidog. Mae data diweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn paentio darlun pryderus o hiliaeth o fewn y system gyfiawnder. Gan nad oedd y wybodaeth yma ar gael yn gyhoeddus, fe wnaethon nhw gasglu hyn trwy geisiadau rhyddid gwybodaeth. Fe wnaethon nhw ddarganfod bod pobl ddu a hil gymysg fwy na phedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu harestio na phobl wyn, ac mae hwnna’n ddwywaith fwy tebygol na’r ffigwr cyfatebol yn Lloegr. Rwy’n ymwybodol, fel rŷch chi wedi dweud, fod y Llywodraeth yn y broses o ddatblygu'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' ac mae’r Llywodraeth, rwy’n gwybod, wedi ymrwymo i fynd i’r afael â hiliaeth systemig. Hoffwn ofyn i chi: ydych chi’n credu bod angen casglu a chyhoeddi data ar y pwnc hwn mewn ffordd systematig er mwyn sicrhau ein bod ni’n deall maint y broblem? Hefyd, pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i leihau’r broblem? Ac, yn olaf, ydych chi’n credu y byddai’n haws delio gyda’r broblem pe bai'r heddlu a’r system gyfiawnder wedi’u datganoli?