Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 5 Hydref 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac wrth gloi’r ddadl bwysig heddiw, dylwn ddiolch i’m cyd-Aelod, Mark Isherwood, am gyflwyno'r ddadl Aelodau heddiw, a hefyd i'm cyd-gyflwynwyr, Tom Giffard, Rhun ap Iorwerth a Mabon ap Gwynfor. Diolch hefyd i’r Gweinidog am ei hymateb yn gwerthfawrogi’r pwyntiau heddiw. Fel yr amlinellwyd gan Mark Isherwood wrth agor y ddadl heddiw, ymhlith nifer o ystadegau y mae Aelodau wedi gwneud sylwadau arnynt, un a'm syfrdanodd oedd y ffaith syml fod un o bob 10 o blant a phobl ifanc yn byw gyda meigryn. Ac wrth gwrs, mae hyn yn cael effaith sylweddol ar eu bywydau o ddydd i ddydd, ynghyd â'u hamser yn yr ysgol. Rwy'n siŵr fod llawer o Aelodau—ac mae hyn wedi cael ei grybwyll eisoes—yn y Siambr hon yn gwybod am aelodau o'r teulu neu ffrindiau y mae meigryn yn cael effaith mor sylweddol arnynt ac sy'n dioddef yn fawr o'i herwydd.
Fel yr amlinellwyd gan Rhun ap Iorwerth, os yw plentyn yn dioddef o feigryn, gall hyn yn aml arwain at blant yn cael trafferth i gwblhau eu gwaith ysgol, gan ddangos, heb gymorth priodol, y gall meigryn effeithio’n ddifrifol ar gyrhaeddiad addysgol. Ac un peth a’m trawodd yn ystod y ddadl hon y prynhawn yma, fel y crybwyllodd Mabon ap Gwynfor, yw’r ffaith bod ymchwil gan y Migraine Trust wedi awgrymu bod gweithwyr addysg ac iechyd proffesiynol yn aml heb ddealltwriaeth o feigryn, ac fel y mae Altaf Hussain wedi’i nodi, efallai weithiau nad yw’r gweithwyr proffesiynol hynny wedi cael hyfforddiant ac adnoddau i allu rhoi cefnogaeth effeithiol i’r plant a'r bobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt.
Wrth gwrs, mae camau y gellir eu cymryd i helpu’r plant a’r bobl ifanc sy’n dioddef, ac mae’r rhain wedi’u disgrifio’n huawdl gan yr Aelodau yn ystod y ddadl heddiw. Weinidog, er ichi nodi rhywfaint o’r gwaith cyfredol a rhannu dealltwriaeth glir o’r pryder ynghylch meigryn, nid wyf yn siŵr y byddem yn cael y ddadl hon heddiw pe baem yn teimlo bod yr holl gamau hynny’n gweithio, ac yn gweithio’n dda ledled Cymru. Fel y mae’r cynnig heddiw'n ei nodi, nawr yw’r amser i weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau fel y Migraine Trust a chyrff cynrychioliadol ysgolion, gwasanaethau iechyd a rhieni a gofalwyr ym mha fforwm bynnag sy’n gweithio orau. Weinidog, fe wnaethoch amlinellu efallai fod cyfle i’r Migraine Trust ac eraill ddod ynghyd â fforymau eraill i ddeall y mater hwn yn well; rwy’n siŵr y byddai hynny’n cael ei groesawu.
Ond mae'n amlwg i mi—a chaiff hyn ei amlinellu yn y cynnig heddiw—fod angen inni weld y canllawiau meigryn yn cael eu cryfhau, mae angen inni weld hyfforddiant yn cael ei ddarparu i gefnogi a chynorthwyo pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt, yn ogystal â darparu adnoddau i rieni a gofalwyr plant sy'n byw gyda meigryn, a galluogi plant a phobl ifanc i ddysgu sut i reoli eu gofal eu hunain ar yr un pryd hefyd.
Felly, Ddirprwy Lywydd, wrth gloi’r ddadl heddiw, diolch i’r holl Aelodau, ynghyd â’r Gweinidog, am eu cyfraniadau. Hoffwn ddweud iddi fod yn ddadl hynod ddefnyddiol a chraff, ac yn ogystal â hyn, mae gan Aelodau’r Senedd heddiw gyfle gwych i gefnogi’r cynnig hwn a fydd yn gwneud cymaint i ddarparu cymorth ac arweiniad i bobl ifanc a phlant sy’n dioddef o feigryn. Felly, galwaf ar bob Aelod i gefnogi’r cynnig heddiw. Diolch yn fawr iawn.