Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 5 Hydref 2022.
Mi roeddwn i'n falch iawn o'r cyfle i gyd-gyflwyno'r ddadl yma heddiw. Mae'n glir i fi ac Aelodau eraill, fel rydyn ni wedi clywed, fod yna lawer mwy sydd angen ei wneud er mwyn helpu'r nifer uchel o blant a phobl ifanc sy'n dioddef efo meigryn yn rheolaidd yng Nghymru. Mae'n broblem fawr sydd wedi cael ei hanwybyddu'n rhy hir, os ydyn ni'n bod yn onest, ac yn rhy aml, mae'n cael ei drin fel unrhyw salwch tymor byr arall, ond wrth gwrs mae o'n fwy na hynny.
Y gwir amdani ydy bod meigryn yn gyflwr ymennydd hirdymor all gael canlyniadau difrifol tu hwnt ar berfformiad addysgol plentyn, heb sôn am eu hunanhyder a'u bywyd cymdeithasol. Mae plant sy'n dioddef o feigryn yn gallu methu hyd at dri mis o ysgol bob blwyddyn—rydyn ni'n gweld hynny yn yr ystadegau. Mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael efo hynny, yn amlwg. A dyna rydyn ni'n ei alw amdano fo heddiw yma.
Mae'r Migraine Trust a chyrff eraill yn cynnig ffordd ymlaen, gan gynnwys darparu'r gefnogaeth gywir, nid yn unig i'r rhai sy'n dioddef eu hunain, ond hefyd i'r athrawon, i'r rhieni, i'r gofalwyr sy'n gyfrifol amdanyn nhw.
Mae ymchwil yn dangos bod athrawon yn ansicr iawn pan fo'n dod at helpu unigolion efo meigryn, ond mae camau mewn gwirionedd sy'n ddigon syml y mae posibl eu cymryd er mwyn lleihau'r poenau—yfed digon o ddŵr, cael mynediad i ystafell dywyll, o bosib. Ond, ar hyn o bryd, dydy ysgolion ddim yn cael eu hyfforddi yn ddigonol i helpu disgyblion drwy'r poenau yma. Mae bron i 17,000 o dripiau diangen yn cael eu gwneud i ysbytai bob blwyddyn oherwydd meigryn. Drwy gynnig gwell hyfforddiant, dwi'n hyderus bod modd lleihau'r nifer yna, lleihau'r straen ar y gwasanaeth iechyd, ac, wrth gwrs, lleihau absenoldeb plant o ysgolion hefyd—mae hynny'n allweddol.
Mae yna enghreifftiau o arfer da yng Nghymru. Yn y gogledd, er enghraifft, mae cleifion wedi gweld budd o agor Canolfan Walton yn Nhreffynnon. Mae o wedi lleihau amseroedd aros i gleifion sydd efo salwch niwrolegol difrifol. Ond, yn anffodus, dydy'r un gwasanaethau ddim ar gael ym mhob rhan o'r wlad—hynny'n stori gyffredin, wrth gwrs. Ac yn gyffredinol, mae yna broblemau enfawr o hyd yn nhermau amseroedd aros, yr adnoddau sydd ar gael i gleifion, a hynny'n cynnwys plant. Mi all pobl fod yn aros hyd at ddwy flynedd am driniaeth mewn rhai achosion. Ar hyn o bryd, dim ond tri o'r saith bwrdd iechyd, dwi'n credu, sydd â'r adnoddau i drin yr achosion niwrolegol mwyaf difrifol. Mae angen, yn syml iawn, gynllun cenedlaethol i ehangu gwasanaethau ar gyfer meigryn, a hynny i gyfateb i'r ffaith bod yna gymaint o bobl yn dioddef ohono fo.
Ond mae camau ymarferol eraill y mae'n bosibl eu cymryd i wella ansawdd bywyd plant a phobl sy'n dioddef: gwella adnoddau hyfforddiant i athrawon, fel dwi wedi ei ddweud; rhannu canllawiau cliriach i blant a phobl ifanc ar sut i gymryd rheolaeth o'u gofal eu hunain; ac, ie, gwella'r ddarpariaeth gofal drwy'r gwasanaeth iechyd i'r rhai sy'n dioddef yn fwyaf difrifol. Mae angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael â'r hyn sydd yn gur pen mwyaf cyffredin y wlad, ond, fel rydyn ni wedi ei glywed yn barod, sy'n llawer mwy na hynny, a hynny er mwyn trio sicrhau nad ydy o'n amharu'n fwy nag sydd ei angen iddo fo ar fywydau addysg a chymdeithasol ein plant a'n pobl ifanc. A dyna pam rydym ni'n gofyn i'r Senedd nid yn unig nodi'r cynnig yma fel sydd o'n blaenau ni, ond hefyd i gefnogi'r egwyddorion sydd y tu ôl i'r hyn rydym ni'n ei gyflwyno o'ch blaenau chi heddiw yma.